Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia Inferior |
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Flavia Caesariensis. Roedd yn un o'r pedair talaith a grewyd tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian; y tair arall oedd Britannia Prima, Britannia Secunda a Maxima Caesariensis.
Roedd Flavia Caesariensis yn cynnwys rhan ddeheuol gogledd Lloegr a chanolbarth LLoegr, efallai yn ymestyn yn ddigon pell i'r de i gynnwys ririogaeth yr Iceni.Credir bod ei phrifddinas yn Lindum (Lincoln heddiw).
Cred rhai fod Flavia Caesariensis a Maxima Caesariensis ar un adeg yn ffurfio un dalaith, dros y rhan fwyaf o'r hyn sy'n awr yn nwyrain Lloegr.